Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4

Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2022

Amser: 09.30 - 11.20
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13065


Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o’r Senedd:

Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd)

Peter Fox AS

Mike Hedges AS

Joyce Watson AS (yn lle Rhianon Passmore AS)

Tystion:

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru

Emma Watkins, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Owain Roberts (Clerc)

Mike Lewis (Dirprwy Glerc)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

 

<AI1>

Rhag-gyfarfod Preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI2>

<AI3>

2       Papur(au) i’w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn perthynas â phenodiadau cyhoeddus.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch goblygiadau ariannol Biliau.

</AI3>

<AI4>

2.1   PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2023-2024: Ymateb Comisiwn y Senedd - 8 Tachwedd 2022

</AI4>

<AI5>

2.2   PTN 2 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn Datganiad hydref y DU - 21 Tachwedd 2022

</AI5>

<AI6>

2.3   PTN 3 - Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol - Y Prif Weinidog a Chyngor Penaethiaid y Llywodraethau Datganoledig - 10 Tachwedd 2022

</AI6>

<AI7>

2.4   PTN 4 - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU Ymateb Llywodraeth Cymru - 17 Tachwedd 2022

</AI7>

<AI8>

2.5   PTN 5 -  Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymateb Llywodraeth Cymru - 21 Tachwedd 2022

</AI8>

<AI9>

2.6   PTN 6 -  Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE: Ymatebion Llywodraeth y DU - 21 Tachwedd 2022

</AI9>

<AI10>

2.7   PTN 7 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 - 23 Tachwedd 2022

</AI10>

<AI11>

2.8   PTN 8 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol (F:ISC) - 24 Tachwedd 2022

</AI11>

<AI12>

2.9   PTN9 - Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 – Memorandwm Esboniadol Diwygiedig, 5 Rhagfyr 2022

</AI12>

<AI13>

2.10PTN 10 - Llythyr gan y Prif Weinidog: Craffu ar oblygiadau ariannol Biliau - 7 Rhagfyr 2022

</AI13>

<AI14>

2.11PTN 11 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Ymchwiliad i Benodiadau Cyhoeddus - 7 Rhagfyr 2022

</AI14>

<AI15>

2.12PTN 12 - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn ar Fil Amaethyddiaeth (Cymru) ar 9 Tachwedd 2022 - 8 Rhagfyr 2022

</AI15>

<AI16>

3       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth 1

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 gan y tystion a ganlyn: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr y Trysorlys; ac Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:

 

·         Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd ddarparu nodyn ar rôl weithredol Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wrth ariannu tai cymdeithasol.

·         Nodyn ar gymorth ardrethi annomestig, yn enwedig mewn perthynas â chymhwysedd sefydliadau cenedlaethol mwy sydd â phresenoldeb ar y stryd fawr i gael cymorth ar ardrethi.

·         Nodyn ar y cynnydd a wnaed i sicrhau’r pwerau gofynnol i weithredu treth tir gwag a manylion am unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn.

·         Nodyn ar nifer y cynlluniau Menter Cyllid Preifat yng Nghymru sydd i fod i ddod i ben yn y 5 mlynedd nesaf.

·         Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu nodyn ar unrhyw ddisgwyliad y bydd cyllid gwell ar gyfer Gofal Sylfaenol.

 

</AI16>

<AI17>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI17>

<AI18>

5       Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>